Gof Celfyddyd – Artist Blacksmith

Newyddion cyffrous! Mi fydd Cai Gwilym Roberts, 21, o Ddinas Mawddwy,  yn un o’r Artistiaid Gwadd yng Nghelf Aran, Dolgellau, Mis Mai yma. Mae Cai wedi bod yn datblygu ei sgiliau fel gof dan hyfforddiant Spike Blackhurst, Gof Celfyddyd, yn ei hefail yn Llanbrynmair. Fe enillodd Cai Bwrsari Hyfforddiant Celf Loteri yn 2024, ac hefyd y wobr cyntaf yng nghategori Haearnwaith Addurnol (Myfyrwyr Cymreig) yn Sioe Frenhinol Cymru 2025.  Ar hyn o bryd, mae Cai yn astudio am gradd mewn Dylunio a Chelf yng Ngholeg Menai ym Mangor.

Mae Cai wedi cynhyrchu amrywiaeth o eitemau ymarferol a hardd ar gyfer Celf Aran, gan gynnwys poceri, bachau wal, sgiwerau barbeciw yn ogystal ag amrywiaeth gyffrous o ddarnau artistig. Mi fydd haearnwaith Cai yng Nghelf Aran drwy gydol Mis Mai.  Dewch draw i gefnogi Cai, cewch chi ddim eich siomi!

Some exciting news! Cai Gwylim Roberts, 21, from Dinas Mawddwy, is a Guest Artist at Celf Aran Arts in Dolgellau this May. Cai has been developing his skills as a blacksmith under the tuition of Spike Blackhurst, Artist Blacksmith, at her forge in Llanbrynmair.  Cai won the Craft Lottery Training Bursary in 2024 and also first prize in the Ornamental Ironwork (Welsh Students) category at the Royal Welsh Show 2025.  Cai is currently studying a Degree in Art and Design at Coleg Menai in Bangor.

Cai has produced a range of practical and beautiful items for Celf Aran, including pokers, wall hooks, barbecue skewers, as well as an exciting range of artistic pieces. Cai’s work will be on display in Celf Aran Arts throughout May.  Come and support him, you won’t be disappointed!